Le Tour de France, S4C has it covered!

Le Tour de France, S4C has it covered!

Navigation:
Home

Le Tour de France is a race steeped in history and tradition, a race which defines endurance and global sportsmanship. This year catch all the action from this super-human race on S4C.

With live coverage every afternoon and comprehensive highlights each evening, presented by a team of enthusiastic cycling fanatics; S4C has Le Tour de France covered from every angle.

Starting on Saturday, 5 July, through to the finish on 27 July, S4C will follow the riders on every stage, sprint and climb of the 3,664 km route, with a special focus on home-grown talent.

Each afternoon, we'll join the cyclists for two hours of live coverage at the most thrilling part of the stage - as the leaders break away and sprint for the finish. Then, at 10.00 in the evening, the highlights programmes will feature the whole day's racing.

The commentating team includes former rugby professional and cycling fan, Rhodri Gomer Davies; experienced commentator Wyn Gruffydd ; cycling fanatic Peredur ap Gwynedd; semi-pro cyclist Gruff Lewis and the fountain of cycling knowledge, Alun Wyn Bevan.

The programmes will also include contributions by Sara Elen Thomas, partner of Welsh super cyclist Geraint Thomas from Cardiff. She will be giving her exclusive take on the action, with an insight into the life and thoughts of the professional cyclist.

Read more on the Seiclo website

How to get S4C

 

Mae Le Tour de France yn ras llawn hanes a thraddodiad, yn ras sy'n diffinio dygnwch ac ysbryd cyd-dynnu rhwng chwaraewyr o bob cwr o'r byd.  Eleni am y tro cyntaf bydd S4C yng nghanol cyffro'r ras anhygoel hon.

Gyda rhaglenni byw ar y lôn bob prynhawn, ac uchafbwyntiau cynhwysfawr gyda'r nos; yng nghwmni tîm o gefnogwyr ffanatig, bydd rhaglenni S4C yn cyflwyno’r darlun llawn bob cam o'r ras.

Yn dechrau ar ddydd Sadwrn, 5 Gorffennaf, hyd at y llinell derfyn ar 27 Gorffennaf, bydd S4C yn dilyn y seiclwyr bob cymal, cornel a sbrint o'r ras 3,664 cilomedr gan roi sylw arbennig i'r Cymry.

Bob prynhawn, byddwn yn darlledu'n fyw am o leia' dwy awr; yn ymuno â'r ras ar yr adeg fwyaf cyffrous, wrth i'r cyflymaf dorri'n rhydd a charlamu am y diwedd. Yna am 10.00 bob nos, bydd uchafbwyntiau cynhwysfawr yn crynhoi digwyddiadau'r diwrnod cyfan.

Mae tîm cyflwyno S4C yn cynnwys y cyn-chwaraewr rygbi, sy'n seiclwr brwd, Rhodri Gomer Davies; y sylwebydd profiadol Wyn Gruffydd; Peredur ap Gwynedd sy'n gwirioni ar y gamp; y seiclwr lled-broffesiynol o Aberystwyth Gruff Lewis a'r ffynhonnell ddiwaelod o wybodaeth seiclo, Alun Wyn Bevan.

Er mwyn rhoi blas ar fywyd y seiclwyr sy'n rasio, bydd Sara Elen Thomas, partner y Cymro chwim Geraint Thomas o Gaerdydd, aelod allweddol o dîm Sky, hefyd yn cyfrannu at y rhaglenni. Drwy ei llygaid hi cawn gip ar fyd Geraint.

Darllenwch mwy ar wefan Seiclo

Sut i dderbyn S4C