Diwrnod o her a hwyl yn Go-Race Llanberis | A Brilliant day of MTB Racing at Llanberis Go-Race

Diwrnod o her a hwyl yn Go-Race Llanberis | A Brilliant day of MTB Racing at Llanberis Go-Race

Navigation:
Home » Mountain Bike


Please scroll down to Version 2 for an English translation of the article.

Version 1: Cymraeg

Ar ddydd Sadwrn y 6ed o Ebrill, cynhaliwyd rownd gyntaf cyfres Go-Race gogledd Cymru yn Llanberis. Roedd y tywydd yn braf ac roedd llawer o blant o bob oedran wedi dod i gymryd rhan yn y rasys oedrannau gwahanol. Roedd cyfle i gymryd rhan mewn grwpiau oedran o dan 6, 8, 10, 12, 14 a 16. Dechreuodd y diwrnod gyda’r plant o dan 6. Roedd mwy na dim ond rasys i herio’r plant, roedd adran sgiliau yno hefyd i bawb gymryd tro a chael eu hamseru.

Rydw i’n gweld rasys beicio mynydd yn fwy o hwyl i wylio achos fod llawer mwy o ddarnau technegol ynddynt i herio’r beicwyr.

Darnau mân o gerrig oedd pob darn o’r cwrs. Dechreuodd y trac rasio i’r plant o dan 6 gydag allt fach i fyny. Rownd cornel dynn i’r chwith a dal i fynd i fyny. Roeddynt yn dod lawr allt fach serth i’r chwith tuag at y llyn ar gyflymder cyflym iawn. Ar ôl mynd heibio’r llyn roedd allt fach i fyny eto ac i lawr i mewn i bant oedd yn mynd i lawr a fyny yn gyflym. Roeddynt yn mynd rownd corneli bach ac i lawr allt fach ac yna yn dod at y llinell derfyn mewn llinell syth. Roeddynt yn gorfod ailadrodd y trac hwn tan oedd y 10 munud ar ben. Yn ras yr hogiau, daeth Elis Ward yn gyntaf, Jac Wood yn ail a daeth Ben Reid yn drydydd. Yn ras y genod, daeth Elen McLean yn gyntaf.

Roedd trac ac amser y ras o dan 8 yn hirach. Roeddent yn gorfod ailadrodd y trac am 12 munud. Roedd y trac yr un peth â’r trac o dan 6 tan y pant i lawr ac yn lle gorffen ar ôl y corneli bach, roeddynt yn mynd lawr yr allt ac yn troi i’r dde ar i fyny unwaith eto. Roeddynt yn mynd lawr at y llyn lle'r oedd y llinell derfyn. Yn gyntaf yn ras y genod oedd Bethan Pimble, yn ail Polly Hext ac yn drydydd roedd Maggie Pimble.  Yn gyfartal yn safle cyntaf ras yr hogiau oedd Isaac Vickery a Sennen Brown ac yn drydydd roedd Gryff Jones.

Roedd y trac o dan 10 yr union yr un peth â’r trac o dan 8 ond yn parhau am 15 munud. Roedd yn ras gyflym iawn gyda llawer o newid safleoedd trwy’r ras i gyd. Hwn oedd y ras agosaf o’r diwrnod gydag eiliadau rhwng cyntaf ac ail. Yn gyntaf yn ras y genod roedd Seren Sergeant ac yn ail roedd Annabelle Griffiths. Yn gyntaf yn ras yr hogiau roedd Joshua Page, yn ail Harry Holden ac yn drydydd oedd Rupert Hext.

Roedd y trac o dan 12 yr un peth â’r trac o dan 8 a 10 ond yn parhau am 20 munud. Hon oedd y ras gyda mwyaf o bellter rhwng y safleoedd cyntaf ac ail ac yn y blaen. Ar ôl ychydig o funudau roedd y bylchau yn eithaf mawr. Roedd yn ras dda achos roedd llawer o gyflymder ynddi. Yn gyntaf yn ras yr hogiau oedd Alex Carson, yn ail oedd Oliver Andrews ac yn drydydd oedd Sion Edwards. Yn ras y genod, yn gyntaf oedd Faye Williams, yn ail Josie Hurst ac yn drydydd oedd Briony Roberts.

Roedd y cystadleuwyr o dan 14 a 16 yn rasio ar yr un adeg achos oedd dim ond 1 yn y categori o dan 16. Hon oedd y ras gyflymaf o’r diwrnod ac un o’r goreuon. Roeddent yn cystadlu ar yr un trac â’r plant o dan 8, 10 a 12. Roeddynt yn rasio am 25 munud. Hon oedd ras olaf y diwrnod. Yn gyntaf yn ras yr hogiau o dan 14 oedd Tom Carson, yn ail Llion Rees-Jenkins ac yn drydydd oedd Sam Stoker. Yn gyntaf yn ras y genod oedd Isabelle Shaw ac yn ail Megan Blackburn. Yn y categori o dan 16 yn gyntaf i’r hogiau oedd Ben Aston.

Yn fy marn i, y ras orau oedd y ras o dan 10 achos o pa mor agos oedd y ras. Roedd yn gyflym iawn gyda llawer o ddigwyddiadau yn y ras fer. Roedd yn andros o hwyl i wylio. Hon oedd un o’r ddwy ras gyda’r nifer fwyaf o gystadleuwyr a’r gystadleuaeth fwyaf heriol hefyd.Hoffwn ddweud da iawn i’r holl gystadleuwyr am gymryd rhan yn Go-Race Llanberis y flwyddyn hon. Mae’n edrych fel bod gennym dymor gwych o’n blaenau.

Cynhelir rownd gyntaf cyfres Beicio Mynydd Traws Gwlad Cymru ar ddydd Sul, 19fed o Fai yn Llandegla. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y digwyddiad hwn.

Version 2: English

On Saturday the 6th of April in Llanberis was the first round of the North Wales Go-Race Series. It was a sunny day with a lot of children from all the different age groups ready to take part in the racing. The different age groups were under 6, 8, 10, 12, 14 and 16. The day started with the under 6s. It was more than just a race, there was also a timed skills challenge for every rider to have a go at.

I feel that mountain biking races are better and more fun to watch because I think that mountain biking calls for more technical skills to challenge the rider.

The whole course was made of chippings and loose rock. The under 6s race began with a short ascent and then round a sharp corner to the left. It then went down a hill to the left and passed the lake. It then began to go up again for a short distance and then the riders had to go into a dip and back out. They then faced a lot of little tight corners and then down a small hill and a straight to the finish line. They had to repeat this lap for 10 minutes. In the boys’ race in first place was Elis Ward, in second Jac Wood and in third was Ben Reid. In the girls’ race in first place was Elen McLean.

The under 8s repeated laps of a longer track for the longer time of 12 minutes. The track was the same as the under 6s until just before the small sharp corners. It went down a bit and turned right and then went up to the left and then finished the race. The finishing line was at the lake from the under 6s lap. In the girls’ race Bethan Pimble came first, Polly Hext second and Maggie Pimble in third. For the boys’ race there were two in first place and they were Isaac Vickery and Sennen Brown and it was Gryff Jones in third place.

The under 10s track was the exact same but it lasted 15 minutes. The race was very quick and very close. It was a couple of seconds between first and second. I couldn’t tell who was going to win in both races. For the girls Seren Sergeant placed first with Annabelle Griffiths in second. For the boys’ race it was Joshua Page who got the win with Harry Holden in second and behind him in third was Rupert Hext.

The under 12s track was the same as the under 8s and 10s. This race repeated for 20 minutes and this was the race that was most spread out. First and second were quite far away from each other. It was a fast race. First in the boys’ race was Alex Carson then in second was Oliver Andrews and Sion Edwards in third. In the girls’ race Faye Williams was first with Josie Hurst second and Briony Roberts in third.     

The under 14s and 16s contestants raced together because there was one under 16s. This was the fastest-paced race and it lasted 25 minutes on the same track. This was the last race of the day and what a way to end it. In the under 14s Tom Carson came first with Llion Rees-Jenkins in second, and in third was Sam Stoker. For the girls’ race in first place was Isabelle Shaw and in second Megan Blackburn. In the boys’ under 16s race Ben Aston came first.

In my opinion the best race was the under 10s because of how close it was. It was quick and there was no way to guess who would win. This race had a lot of contestants and a lot of competition.

I want to say well done to everyone for taking part in the Go-Race MTB. Looks like we have a great season ahead.

The first round of the Welsh MTB XC series will take place on Sunday 19th May at Llandegla. Click here for more information about this event.