ban-welshmtb
Search
Username Password
GETTING STARTED
How to use the Welsh Cycling website





 

Outdoor_Partnership_LOGO_3

 

Gŵyl Beicio 1af Eryri

 

Gogledd Cymru 12 - 13 Mai

 

Conwy'n cynnal Gŵyl Beicio 1af Eryri. Cynhelir yr ŵyl yn Nghoedwig Gwydyr, Llanrwst, Gogledd Cymru 12 - 13 Mai 2007.

 

 

Mae'r ŵyl feicio 2 ddiwrnod hon yn mynd i fod yn ŵyl i'w chofio a bydd yn lansio cyfnod newydd o feicio yng Ngogledd Cymru.

 

Mae Conwy wedi ffurfio partneriaeth â chwmnïau beicio lleol a rhyngwladol er mwyn cynnal yr ŵyl hon.  Bydd y gwneuthurwyr beiciau  Giant a Specialized yn darparu beiciau i'w treialu, bydd gwneuthurwyr cydrannau megis SRAM a Magura yn darparu cefnogaeth dechnegol a bydd y cylchgrawn Mountain Bike Rider yn darparu cefnogaeth o ran y cyfryngau.

 

Mae'r Ŵyl yn bwriadu

 

  • Hyrwyddo cyfleoedd beicio mynydd o fewn yr ardal.
  • Rhoi gwybodaeth ac addysgu pobl leol ac ymwelwyr am fanteision gweithgareddau awyr agored i sicrhau ffordd o fyw iach.
  • Darparu cyfleoedd hyfforddi yn y gweithgareddau hyn i'r rhai sy'n cymryd rhan.

Yn ystod y ddau ddiwrnod, bydd cyfle i ddod a threialu rhai o feiciau mynydd diweddaraf dau wneuthurwyr  blaenllaw, sef Giant a Specialized, ar lwybr treialu penodol.

 

Dydd Sadwrn, bydd teithiau beiciau o dan arweiniad ar gael, gyda dewis o lwybrau a graddau amrywiol o allu technegol a phellter.  Bydd cyfleoedd ardderchog hefyd i feicwyr archebu lle ar gyfer sesiynau hyfforddi technegol i wella eu sgiliau.  Hefyd, dydd Sadwrn, bydd taith benodol ar gyfer  merched, er mwyn annog merched sy'n beicio mynydd i ddod â ffrind gyda hwy, benthyg beic a 'rhoi cynnig arni'!

Dydd Sul, bydd Conwy yn cynnal Trydydd Rownd y 'Gyfres Her Arbenigol' yng Nghoedwig Gwydyr.  Mae'r Gyfres Her Arbenigol ar gyfer oedolion o bob gallu a bydd dau lwybr penodol gydag arwyddion drwy'r goedwig, sy'n addas ar gyfer galluoedd gwahanol.  Bydd ymgeiswyr yn derbyn bag nwyddau, medal a thystysgrif a bydd llawer o bethau i'w gweld a'i gwneud.

 

Bydd hwn yn ddigwyddiad o bwys yn hanes cynnar Clwb Beicio Mynydd Dyffryn Conwy a bydd llwyddiant y digwyddiad yn deillio o waith caled a phenderfyniad aelodau gwirfoddol y Clwb, ynghyd â phartneriaeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Partneriaeth Awyr Agored Gogledd-orllewin Cymru, Snowdonia Cycle Hire, Cyngor Chwaraeon Cymru, Comisiwn Coedwigaeth Cymru, Menter Iaith Conwy a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

 

Ar ran Partneriaeth Awyr Agored Gogledd-orllewin Cymru, dywedodd Arwel Elias, y Swyddog Datblygu,  "Mae digwyddiadau fel rhain mor bwysig i gynyddu'r nifer o bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored gan greu cyfle i bawb gymryd rhan, i fwynhau a chyflawni, yn ogystal â chreu defnydd cynaliadwy a dealltwriaeth o'r amgylchedd naturiol sydd o'n cwmpas.  Bydd hon yn ŵyl feiciau na welwyd ei thebyg o'r blaen yng Ngogledd Cymru a chyda mwy o ddigwyddiadau fel hyn, mae'n bosibl y byddwn yn dechrau newid ymwybyddiaeth pobl leol o weithgareddau awyr agored.

 

Dywedodd Richard Hemington, Rheolwr gyfarwyddwr Specialized, "Mae'r digwyddiadau hyn yn llwyr ymwneud â'r defnyddwyr, gan roi'r cyfle iddynt dreialu ein cynnyrch a chyfle i gymryd rhan yn y gyfres sialens, beth bynnag fo'u gallu."

 

Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl a'i digwyddiadau a gwybodaeth am y clwb, edrychwch ar y wefan: www.SnowdoniaBikeFest.co.uk  

 

1          Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl, cysylltwch ag Arwel Elias, Swyddog Datblygu Awyr

            Agored Conwy, Gwasanaethau Hamdden a Datblygiad Cymunedol, Adeiladau'r

            Llywodraeth, Dinerth Road, Bae Colwyn, Ll28 4UL

 

2          Am ragor o wybodaeth ar Bartneriaeth Awyr Agored Gogledd-orllewin Cymru,

            cysylltwch ag Arwel Elias, Swyddog Datblygu Awyr  Agored Conwy, Partneriaeth

            Awyr-Agored Gogledd-orllewin Cymru, 01492 575563  neu e-bostiwch:

            arwel.elias@conwy.gov.uk 

 

Bike_Fest_Poster_Welsh_150

 

 

Copyright © 2005 British Cycling